Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/

Prif Weithredwr GIG Cymru

Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Director General Health and Social Services/

NHS Wales Chief Executive

Health and Social Services Group

 

 

Nick Ramsay AC

Cadeirydd

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 

 

Ein Cyf: AG / MR

 

06 Mehefin 2018

 

Annwyl Mr Ramsay

 

Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru a Gwasanaethau Orthopedig

 

Yn dilyn y diweddariad a ddarparwyd ym mis Mawrth 2018, rwyf nawr yn darparu diweddariad arall fel y gofynnwyd.

 

O ran amseroedd aros, fel y gwyddoch, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn arall yn 2017-18 i helpu byrddau iechyd i adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf a sefydlogi er mwyn lleihau nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos, y rhai sy'n aros dros wyth wythnos am brofion diagnostig a'r rhai sy'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi erbyn diwedd mis Mawrth 2018.  

 

Er gwaethaf y pwysau cynyddol yn sgil gofal heb ei drefnu a welwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2018, diolch i ymroddiad a gwaith caled staff yn GIG Cymru a'r buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, roeddem yn gallu dangos gwelliant blynyddol arall yn nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos, gyda'r niferoedd bellach yn 12,119, sef gwelliant o 2% o gymharu â'r sefyllfa ym mis Mawrth 2017. Dyma'r sefyllfa orau ers mis Mawrth 2014.  Mae chwech o blith y saith bwrdd iechyd mewn gwell sefyllfa neu'r un sefyllfa o ran y niferoedd sy'n aros 36 wythnos o'i gymharu â mis Mawrth 2017, gyda'r unig ddirywiad ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.  Fodd bynnag, hyd yn oed yno, mae'r niferoedd sy'n aros dros 36 wythnos wedi lleihau 39% o gymharu â'u proffil gwreiddiol yn eu Cynllun Tymor Canolig Integredig ac mae 45% yn is na'r uchafbwynt ym mis Rhagfyr 2017.  Rwy'n cydnabod bod ffigur Cymru-gyfan yn dal yn rhy uchel ac rwy'n disgwyl gweld gwelliannau pellach yn ystod 2018-19 fel y nodir yng Nghynlluniau Tymor Canolig Integredig y byrddau iechyd.

 

O ran diagnosteg, roedd y ffigurau ar ddiwedd mis Mawrth 2018 69% yn is nag ym mis

Mawrth 2017 a dyma'r ffigurau isaf ers mis Medi 2009.  Unwaith eto, gwelwyd gwelliannau

 

 

                                                                                                                                                                                 Ffôn  Tel 0300 0251182

                                                                                                       Parc Cathays Cathays Park                     Andrew.Goodall@gov.wales

                                                                                                                      Caerdydd Cardiff                                                                     

                                                                                                                                     CF10 3NQ     Gwefan website: www.wales.gov.uk

 

yn y mwyafrif o fyrddau iechyd o'u cymharu â mis Mawrth 2017 ac rwy'n disgwyl gweld gwelliannau pellach yn ystod 2018-19.  O ran gwasanaethau therapi, roedd y ffigurau ym mis Mawrth 2018 90% yn is na'r sefyllfa ym mis Mawrth 2017 a dyma'r ffigur isaf ers mis Mehefin 2011.  Dywedodd pedwar o'r byrddau iechyd yng Nghymru nad oedd neb yn aros dros 14 wythnos ar ddiwedd mis Mawrth 2018.

 

O ran agweddau eraill ar yr adroddiad gwreiddiol ar amserau aros a oedd yn dal heb eu datrys; mae'r rheolau a'r diffiniadau ynglŷn â sut i reoli claf ar lwybr atgyfeirio at driniaeth wedi'u cyhoeddi dan Gylchlythyr Iechyd Cymru (WHC (2018) 018) ynghyd â'r rheolau ar gyfer rheoli cleifion ar lwybr cardiaidd 

(https://gov.wales/docs/dhss/publications/whc2018-018cy.pdf).  Mae'r rhaglen 1000 o Fywydau wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru Canllawiau i Arfer Da - cleifion allanol a chyhoeddwyd hyn ar 1 Mai 2018 (http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/canllaw-iarfer-da-cleifion-allanol).

 

O ran orthopedeg, sicrhawyd yr arian i barhau â'r rhaglen PROMs, PREMs ac

Effeithlonrwydd a bydd yr arian yn cefnogi cyflwyno a gweithredu PROMs orthopedig.  Mae'r ateb i gasglu PROMS orthopedig yng nghartref claf yn weithredol mewn rhai byrddau iechyd.  Bwriedir rhyddhau fersiynau o feddalwedd i wella ymarferoldeb i ganiatáu i wasanaethau weinyddu'r llwybr PROM ar ôl brysbennu cychwynnol, yn ogystal â gwelliannau eraill, yn ddiweddarach eleni. 

 

Mae'r grŵp gwybodeg ar gyfer gofal wedi'i gynllunio wedi cyflwyno cynnig i ddatblygu safon gwybodaeth i Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru i'w gymeradwyo'n ffurfiol ym mis Mai 2018.  Bydd datblygu'r safon hon yn sicrhau dull cyson o gasglu data ar gyfer cynllunio'r galw yng Nghymru; nid yw hyn yn bodoli ar hyn o bryd.  Yn seiliedig ar y profiad a'r gwersi a ddysgwyd yn yr Alban drwy eu rhaglen galw, capasiti, gweithgaredd a chiwio (DACQ), mae'r rhaglen wedi gallu gweithio gyda gwasanaethau a chydweithwyr gwybodaeth i wneud gwelliannau go iawn a chynaliadwy, sy'n sail i'r cynlluniau gweithredu dilynol.

 

Mae byrddau iechyd wedi dechrau adrodd ar fetrigau data y Ganolfan Asesu a Thriniaeth Gyhyrysgerbydol Clinigol (CMAT).  O ran y dyfodol, adroddir ar y rhain bob chwarter a byddant yn rhan o agenda Bwrdd Orthopedig Cymru.  Mae trafodaethau ymhlith clinigwyr ac arweinwyr CMAT yn arwain at newidiadau mewn arferion gwaith, gan arwain at well ansawdd gofal cleifion a mynediad at wasanaethau drwy weithio mewn modd mwy cydweithredol.  Bydd grŵp CMAT Cymru Gyfan yn adolygu'r meini prawf data presennol ar ddiwedd chwarter dau i gadarnhau bod y metrigau cywir yn cael eu casglu a bod y targedau'n synhwyrol, cyn bwrw ymlaen i gynnig datblygu safon gwybodaeth i ffurfioli'r trefniadau adrodd.  Mae hyn yn rhan annatod o ddeall ble i wella'r defnydd o adnoddau, a sut y bydd ymgorffori'r trefniadau casglu mewn arferion gweithio arferol yn sicrhau bod y CMAT a'r gwasanaeth atgyfeirio yn cael eu monitro'n effeithiol.

 

Rwy'n hyderu bod y llythyr hwn yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnoch y bydd cynnydd yn parhau i gael ei wneud.

 

Yn gywir

 

 

Dr Andrew Goodall